DWLP07

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 |Development of post-16 Welsh language provision

Ymateb gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol | Evidence from The National Centre for Learning Welsh

Derbyniodd Y Ganolfan cyllid ychwanegol yn Ebrill 2022 ar gyfer ymestyn ei ddarpariaeth i bobl ifanc 16-25 oed.  Yn sgil y gwaith hwn llwyddwyd i ddenu 1,150 o bobl ifanc yn ystod 2022 -23 a 2,593 o bobl ifanc yn ystod 2023-24.  Roedd hyn drwy ddatblygu amrywiaeth o brosiectau a phartneriaethau newydd gan gynnwys Colegau Addysg Bellach, Dug Caeredin ac Ysgolion.  Mae pwyslais y cyfleoedd hyn oll ar ddatblygu sgiliau a hyder i siarad y Gymraeg.

Roedd y gwaith hwn uwchlaw gwaith arferol y Ganolfan, sydd bellach yn darparu gwasanaethau dysgu Cymraeg i ystod o gynulleidfaoedd, gan gynnwys dysgwyr yn y gymuned, yn y gweithle, mewn teuluoedd ayb.  Mae’r galw am wasanaethau dysgu Cymraeg yn uchel, ac wedi cynyddu dros y blynyddoedd, dyn ni’n dysgu mwy o bobl nag erioed, ond yr her yw parhau i ymateb i’r galw pan nad yw’r cyllid yn cynyddu.  Mae data y Ganolfan ar gyfer 2022-23 yn dangos cynnydd 11% yn niferoedd y dysgwyr, gyda nifer y dysgwyr ifanc 9% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.  Dyma’r math o dwf sy’n bosib gyda buddsoddiad ariannol.

Dyn ni’n gweithio’n arloesol ac yn greadigol, ac wedi cyflwyno ystod newydd o gyfleoedd i ddysgu Cymraeg gan gynnwys dysgu’n rhithiol a hunan-ddysgu, mae nifer uchel o adnoddau digidol ar gael i gefnogi’r dysgu hefyd.  Pwrpas hyn yw cyrraedd mwy o bobl i ddysgu Cymraeg ac wrth gwrs, mae gweld cynnydd yn y galw a niferoedd y dysgwyr yn rhywbeth i ddathlu ond her y Ganolfan yw gallu ymestyn ei wasanaethau i gynulleidfaoedd cynyddol a parhau i gynyddu’r niferoedd sy’n dysgu Cymraeg.

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu'r dyraniad ychwanegol ar gyfer y  Ganolfan ar gyfer 2024-25 yn golygu nad oes modd i ni ymestyn y gwaith ymhellach ond gallwn anelu i gynnal lefel bresennol y gwasanaeth.

Mae’r gynulleidfa ôl-16 mor bwysig, ac mae’r Ganolfan yn gwybod ein bod yn gallu cyrraedd pobl ifanc a’u denu i ddysgu Cymraeg.  Mae ein cynlluniau yn cynnwys nifer o bartneriaethau sy’n galluogi pobl ifanc i ddysgu Cymraeg ochr yn ochr neu fel rhan o’u hyfforddiant. Er enghraifft mae cynlluniau gyda phrentisiaid ble mae 120 awr o ddysgu Cymraeg (sydd gyfwerth ag un lefel gyfan) wedi eu hymgorffori i’r cwrs.  Dyn ni hefyd wedi cynnal peilot llwyddiannus gyda Choleg Addysg Bellach ble derbyniodd 400 o bobl ifanc wersi Cymraeg yn ymwneud yn benodol â’u hastudiaethau galwedigaethol.   Mae gennym hefyd gynlluniau ar waith gyda Phrifysgolion i ymgorffori elfennau o ddysgu Cymraeg i gyrsiau ôl-raddedig. Mae hynny’n cynnwys Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon a Cwrs Gradd Astudiaethau Plentyndod.  Mae hyn oll wedi ei alluogi gyda’r cyllid ychwanegol a dderbyniwyd i ymestyn ein gwasanaethau i bobl ifanc.

Mae galw am wasanaethau dysgu Cymraeg yn uchel, a chynnydd yn y niferoedd sy’n dysgu bob blwyddyn ers i’r Ganolfan gael ei sefydlu.  Mae niferoedd y bobl ifanc ôl-16 sy’n dysgu Cymraeg yn uwch ers i’r Ganolfan dderbyn cyllid ychwanegol i ddarparu gwasanaethau i’r gynulleidfa hon.   Mae hyn yn profi, gyda buddsoddiad, gall y Ganolfan gyfrannu’n sylweddol at dargedau Cymraeg 2050.